Creadur mytholegol, cawr o aderyn ym mytholeg yr Iddewon, cyffelyb i roc y Nosweithiau Arabaidd, yw'r Ziz.
Dywedir bod rhychwant ei adenydd yn ddigon mawr i guddio'r haul. Credir yn ogystal fod y Ziz wedi eu creu i ammddiffyn yr adar mân. Fel Lefiathan a Behemoth mae'n fath o anifail elfennol sy'n cynrhychioli anifeiliaid eraill a geir yn ei elfen (yr awyr yn achos y Ziz, dŵr a daear yn achos y ddau arall) ac yn eu rheoli.
Yn ôl traddodiad, bydd cig y Ziz yn cael ei fwyta fel rhan o'r wledd fawr (Siyum Hiyat HaMatim) a roddir i'r ffyddlon ar ddiwedd y byd, ynghyd â chig Lefiathan a Behemoth. Mae'r Ziz yn debyg i'r aderyn mytholegol Persaidd y Simurgh. Mae rhai rabbiaid yn ei uniaethu â'r Kar, y Khara, y Hadhayosh a'r Chamrosh, adar mytholegol eraill yn y traddodiad Iddewig. Yn y gorffennol gwelid y triawd Behemoth, Lefiathan a Ziz mewn lluniau a murluniau Iddewig yn yr Almaen.
Yn chwedlau gwerin a llenyddiaeth plant yr Iddewon mae'r Ziz yn dal i fod yn ffigwr poblogaidd heddiw.